Y Pwyllgor Plant a Phobl Ifanc |
Lleoliad: |
Ystafell Bwyllgora 1 - Y Senedd |
|
|
||
|
|
||||
Dyddiad: |
Dydd Iau, 29 Mawrth 2012 |
|
|||
|
|
||||
Amser: |
09:15 - 11:22 |
|
|||
|
|
||||
Gellir gwylio’r cyfarfod ar Senedd TV yn:
|
|||||
|
|||||
|
|||||
Cofnodion Cryno: |
|||||
|
|
|
|||
Aelodau’r Cynulliad: |
|
Christine Chapman (Cadeirydd) Angela Burns Jocelyn Davies Suzy Davies Julie Morgan Jenny Rathbone Aled Roberts Simon Thomas |
|||
|
|
||||
|
|
|
|||
Tystion: |
|
Simon Brown, Cyfarwyddwr Strategol, Estyn Ann Keane, Chief Inspector of Education and Training in Wales Meilyr Rowlands, Strategic Director, Estyn |
|||
|
|
||||
|
|
|
|||
Staff y Pwyllgor: |
|
Helen Finlayson (Clerc) Claire Griffiths (Dirprwy Glerc) |
|||
|
|
||||
1. Cyflwyniad, ymddiheuriadau a dirprwyon
1.1 Croesawodd y Cadeirydd bawb i’r cyfarfod. Cafwyd ymddiheuriadau oddi wrth Lynne Neagle a Keith Davies.
2. Craffu ar adroddiad blynyddol Estyn 2010-11
2.1 Croesawodd y Cadeirydd y tyst. Bu’r Aelodau’n holi’r tyst am Adroddiad Blynyddol Estyn 2010-11. Oherwydd cyfyngiadau amser, ni ofynnwyd sawl cwestiwn, felly cytunwyd y byddai’r Clerc yn ysgrifennu at y Prif Arolygydd yn gofyn am ei hymateb i’r materion hyn.
Cam i’w gymryd:
Cytunodd y Prif Arolygydd i baratoi crynodeb o nifer o gasgliadau’r adroddiad sy’n ymwneud â’r bwlch rhwng y ddau ryw ac i’w anfon ymlaen at Gadeirydd y Pwyllgor.
3. Cynnig o dan Reol Sefydlog 17.42 i benderfynu gwahardd y cyhoedd o'r cyfarfod ar gyfer yr eitemau a ganlyn ac ar gyfer y cyfarfod ar 25 Ebrill.
3.1 Derbyniodd yr Aelodau y cynnig i wahardd y cyhoedd o weddill y cyfarfod ac o’r cyfarfod ar 25 Ebrill.
4. Adroddiad blynyddol Estyn: Trafod y camau nesaf
4.1 Cytunodd yr Aelodau y byddant yn cyhoeddi adroddiad ar yr adroddiad blynyddol, ond nodwyd y byddai hyn yn cael ei lunio yn ystod tymor yr haf ar ôl ystyried y wybodaeth ychwanegol gan Estyn.
5. Gweithredu Mesur Dysgu a Sgiliau (Cymru) 2009: Trafod yr adroddiad terfynol
5.1 Cytunwyd ar yr adroddiad.
6. Ymchwiliad i fabwysiadu: ystyried tystion posibl
6.1 Yn amodol ar rai mân-newidiadau, cytunodd yr Aelodau ar y papur.
7. Papurau i'w nodi
7.1 Gwybodaeth ychwanegol am rôl Ymwelwyr Iechyd yn rhaglen Dechrau'n Deg gan y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol
7.2 Gwybodaeth ychwanegol am y polisi ar amddiffyn plant rhag yr haul mewn ysgolion
Trawsgrifiad
Gweld trawsgrifiad o'r cyfarfod.